MyfanwyJONESDymuna Mair, Ann, Menna, Helen, Llinos a Wyn, a'u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen nain annwyl, sef Myfanwy Jones, Dolawel, Dinbych. Diolch am yr holl ymweliadau, galwadau ffôn, cardiau, cacennau a blodau, ac am ymuno â ni i gofio a diolch am ei bywyd yng Nghapel y Fron, Dinbych, fis Tachwedd. Diolch i'r Parch Ddr. Andras Iago am ei wasanaeth urddasol, ac i Deiniol ac Arwel o gwmni R W Roberts am drefniadau trylwyr a gofalgar. Gwerthfawrogwn hefyd y cyfraniadau hael a dderbyniwyd tuag at Banc Bwyd Dinbych a Tŷ Gobaith. Diolch yn fawr iawn
Keep me informed of updates
Add a tribute for Myfanwy